Amdanom ni
Mae ARTCARDIFF yn le cynhwysol ar gyfer rhannu – ‘dyn ni’n casglu gwybodaeth am gelf weledol yng Nghaerdydd – lleoliadau, amserlenni a chyfeiriadur – ac wedi eu lleoli i gyd mewn un man cyfleus, Mae’n rhad ac am ddim i restru ac i’w weld. Os oes digwyddiad neu leoliad ‘dych chi’n meddwl dylai fod yno, neu os yw eich hoff le ar goll – rhowch wybod!
Ar hyn o bryd mae’n cael ei gyd-gynhyrchu gan y gofodau sy’n cael eu rhedeg gan artistiaid g39 ac Arcade-Campfa, gyda Clare Charles a George Manson ac Anthony Shapland. Mae Joshua Jones ar hyn o bryd yn cynhyrchu ac yn rheoli’r cyfryngau cymdeithasol. Mae ARTCARDIFF yn cael ei redeg gan artistiaid ar sail wirfoddol yn bennaf. Ar adegau mae wedi cael ei gefnogi gan Gyngor Caerdydd, gan hysbysebwyr ac ar hyn o bryd yn derbyn cymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Mae gwedd bresennol ARTCARDIFF – cymysgiad o ffurfdeipiau, inc du a choch ar bapur pinc – wedi ei ddatblygu gan Jon Morris, HEIGHT a Shapland a nawr yn cael ei argraffu gan Biscuits Press.
Dechreuodd ARTCARDIFF yn 2007 gyda sgwrs rhwng artistiaid Jennie Savage, Anthony Shapland, Richard Higlett, Chris Brown a Grace Davies. Cyn hir ymunodd Nic Finch a Chris Evans a ddatblygodd y wefan gyntaf. Mae hefyd wedi cynnwys Debbie Savage, Richard Bevan, Sean Edwards, Kathryn Ashill, Jo Berry a Liam O’Connor. Cafod y mapiau cyntaf 2011-15 eu cefnogi gan Holly Davey, Walt Warrilow, Nia Metcalfe, Sam Hasler, Mark Gubb and Cinzia Mutigli.
Mae ARTCARDIFF yn gwneud yn union yr hyn y mae’n ei ddweud. Ar un adeg fe’i gelwid yn syml fel ARC ond bu bron iddo gael ei alw’n llawer, llawer o wahanol bethau; Cardiff Artists Network, Sightseer, Urban Foxes, Checkpoint ac am ryw reswm, Owl-Precinct.